Taflen Wybodaeth i Gyfranogwyr Ymchwil (Rhiant/Gwarchodwr)

Cyflwyniad

Gwahoddir i’ch plentyn i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil ar bobl ifanc byddar rhwng 16 a 23 oed. Mae’r astudiaeth ar sut mae bywydau pobl ifanc yn newid yn ystod y cyfnod hwn a beth sy’n dylanwadu ar y newidiadau hynny a’u canlyniadau naill ai’n gymdeithasol, yn alwedigaethol neu’n addysgol. Ar hyn o bryd, mae’ch plentyn o dan 16 oed, felly rydyn ni’n cysylltu â chi fel ei riant/warchodwr (yn ogystal â’ch plentyn) cyn i’ch plentyn penderfynu os ydynt am gymryd rhan. Cyn penderfynu os ydych chi am i’ch plentyn cymryd rhan (os mai dyna yw ei ddymuniad), mae’n bwysig i chi ddeall pam mae’r ymchwil yn cael ei gynnal a beth fyddai’n ei olygu. Efallai bydd eich plentyn am drafod yr astudiaeth gyda chi. Darperir taflen wybodaeth symlach iddyn nhw hefyd. Cymerwch amser i ddarllen y wybodaeth ddilynol yn ofalus a’i thrafod gydag eraill os dymunwch. Os hoffech ofyn cwestiynau oherwydd mae yna rywbeth sydd ddim yn glir neu os hoffech wybodaeth bellach ar ôl darllen y daflen wybodaeth hon, gallwch gysylltu â’r tîm ymchwil – READY@manchester.ac.uk. 

Pwy sy’n cynnal yr ymchwil?

Cynhelir yr ymchwil gan Brifysgol Manceinion a Phrifysgol Caeredin sy’n cydweithio ar y prosiect hwn.

Y tîm ymchwil:

Lleolir cangen Prifysgol Manceinion o’r tîm ymchwil yn: The School of Health Sciences, Division of Nursing, Midwifery and Social Work, Room 4.327b, Jean Mc Farlane Building, Oxford Road, Manchester, M13 9PL.

Lleolir cangen Prifysgol Caeredin o’r tîm ymchwil yn: Moray House School of Education, CL 2.17, University of Edinburgh, Holyrood Road, EH8 8AQ.

Beth yw pwrpas yr ymchwil?

Mi fydd y prosiect READY yn dilyn pobl ifanc byddar ar sail flynyddol am hyd at bum mlynedd i ddeall y llwybrau maent yn eu cymryd ar ôl gadael ysgol a pha fathau o ganlyniadau maent yn eu cyflawni. Defnyddir y gair ‘byddar’ i olygu unrhyw berson ifanc gydag unrhyw radd neu fath o golled clyw barhaol. Gall y bobl ifanc hyn ddefnyddio technolegau clyw fel cymhorthion clyw neu fewnblaniadau yn y cochlear, neu beidio. Bydd rhai ohonynt yn ddefnyddwyr iaith arwyddion. Mae’r prosiect yn ymchwilio i les personol, cyrhaeddiad a chyfle addysgol a gwaith pobl ifanc byddar yn ogystal â pha wasanaethau maent yn eu defnyddio a sut ydynt yn datblygu annibyniaeth a chysylltiadau ag eraill.

Mae angen yr ymchwil oherwydd ychydig iawn a wyddys am lwybrau-bywyd mae pobl ifanc byddar yn eu cymryd wrth iddynt ddod yn oedolion annibynnol neu am yr hyn sy’n eu helpu neu sy’n gwneud pethau’n anoddach iddynt lwyddo. Amcan yr ymchwil yw darparu gwybodaeth sy’n helpu gwella gwasanaethau a chyfleoedd i bobl ifanc byddar yn y dyfodol.

A gyhoeddir y canlyniadau?

Ie.  Mi fydd yr astudiaeth yn cyhoeddi ei chanlyniadau yn Saesneg ysgrifenedig ac Iaith Arwyddion Prydain. Mi fydd y wybodaeth ar gael ar wefan astudiaeth arbennig yn ogystal â chael ei chyhoeddi mewn llyfrau a phapurau academaidd. Mi fydd aelodau tîm yr astudiaeth hefyd yn rhoi cyflwyniadau am yr hyn rydyn ni’n ei ddarganfod wrth i’r astudiaeth fynd yn ei blaen.

Pwy sydd wedi arolygu’r prosiect ymchwil?

Arolygwyd a chymeradwywyd y prosiect gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Rhif XX [Cyf: 2019-4903-10668] sy’n gyfrifol am arweiniad da astudiaethau ymchwil a diogelwch y rheini sy’n cymryd rhan.

Pwy sy’n ariannu’r prosiect ymchwil?

Ariennir yr astudiaeth READY gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar.

Pam yr anfonwyd y wybodaeth hon ataf?

Anfonwyd y wybodaeth hon atoch oherwydd mae’ch plentyn dal yn yr ysgol, o dan 16 oed ac yn fyddar neu’n rhannol fyddar. Felly, er mwyn i’ch plentyn gymryd rhan yn yr astudiaeth byddai’n rhaid i chi ddarparu caniatâd. Byddai’n rhaid i’ch plentyn gytuno i gymryd rhan hefyd (gelwir hyn yn gydsyniad). Efallai byddai’n ddefnyddiol i’ch plentyn drafod yr astudiaeth gyda chi i’w helpu penderfynu a ydynt am gymryd rhan.

Beth fyddai’n digwydd petai fy mhlentyn yn cymryd rhan?

Yn gyntaf, gofynnir i’ch plentyn gwblhau holiadur byr. Mi fydd yn cymryd 5 i 10 munud. Mae’r holiadur yn gofyn am wybodaeth am oedran, rhyw a chefndir ethnig eich plentyn yn ogystal â lefel ei fyddardod, ble maent yn astudio neu’n gweithio a’i ddewis dull cyfathrebu/iaith/ieithoedd.  Byddwn hefyd yn gofyn i chi a’ch plentyn am wybodaeth am sut i gysylltu â chi eto. Gallwch gwblhau’r holiadur ar-lein, ar ddyfais symudol neu gyfrifiadur. Mae angen arnom y wybodaeth hon i’n helpu penderfynu os fydd yn bosib i’ch plentyn ymuno â’r astudiaeth ymchwil READY. Mi fydd yr holiadur byr ar gael yn Saesneg, Cymraeg, Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg llafar â chymorth arwyddion a Chymraeg llafar â chymorth arwyddion . Os oes angen iaith arall ar eich plentyn, gallwch chi neu’ch plentyn ofyn i’r tîm ymchwil amdani. Ar ôl i’ch plentyn dychwelyd ei atebion i’r holiadur atom, gall tri pheth ddigwydd.

  1. Efallai gwahoddir eich plentyn i ymuno â’r astudiaeth READY a byddwn yn anfon holiadur hiraf atynt i’w gwblhau. Mi fydd yn cymryd tua 30 i 40 munud i’w gwblhau. Gellir cwblhau’r holiadur ar ddyfais symudol neu gyfrifiadur neu gellir anfon copi papur os bydd hynny’n well gennych.  Mi fydd yr holiadur hefyd ar gael yn Gymraeg, Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg llafar â chymorth arwyddion a Chymraeg llafar â chymorth arwyddion. Hoffem anfon yr holiadur hir hwn at eich plentyn bob blwyddyn am bedair blynedd, ond bob blwyddyn byddwn ni’n cysylltu â’ch plentyn yn gyntaf i sicrhau ei fod dal eisiau cymryd rhan yn yr astudiaeth.

NEU    

  1. Rhoddir enw’ch plentyn ar restr aros i ymuno â’r astudiaeth. Golyga hyn y mae’n bosib hoffem gynnwys eich plentyn yn yr astudiaeth ond nid yn syth. Y rheswm dros aros yw sicrhau bod cydbwysedd da o bobl ifanc byddar yn yr ymchwil sydd â chefndiroedd gwahanol a gwahanol nodweddion. E.e. mae angen arnom gydbwysedd o fechgyn a merched, pobl ifanc sy’n dewis siarad a’r rheini sy’n dewis arwyddo, pobl ifanc sy’n gwneud prentisiaethau ac eraill sydd mewn addysg uwch, rhai sy’n hollol fyddar a rhai sydd â cholled clyw mân, ayb. Mae’r gwahaniaethau hyn yn bwysig ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y bobl ifanc yn y grŵp ddim yn rhy debyg i’w gilydd. Felly nid yw’n bosib dweud ‘ie’ i bawb yn syth oherwydd mae hyn yn golygu gall yr astudiaeth fod yn llawn pobl sydd â chefndiroedd a nodweddion tebyg. Ni fydd rhaid i’ch plentyn aros mwy nag wyth wythnos cyn i ni ei gysylltu â nhw eto. Wedyn, byddwn naill ai yn gwahodd eich plentyn i gwblhau’r holiadur hir neu byddwn yn esbonio iddynt pam na allwn ei gynnwys yn yr astudiaeth ar hyn o bryd. Os gwahoddir eich plentyn i gwblhau’r holiadur hir, bydd yn cymryd tua 30 i 40 munud i’w hateb. Hoffem ei anfon at eich plentyn bob blwyddyn am bedair blynedd, ond bob blwyddyn byddwn ni’n cysylltu â ‘ch plentyn yn gyntaf i sicrhau ei fod dal eisiau cymryd rhan yn yr astudiaeth.

NEU

  1. Byddwn yn rhoi gwybod i’ch plentyn nad ydynt yn gymwys i gymryd rhan yn yr astudiaeth READY. Er enghraifft efallai bod yr astudiaeth yn llawn yn barod neu roedd rhai o’r wybodaeth a gawsom ganddynt yn golygu nad ydynt yn gymwys i gymryd rhan. Ond byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda’ch plentyn os hoffent i ni ddweud mwy wrthynt am yr astudiaeth a sut mae’n datblygu. Bydd rhaid i’ch plentyn roi caniatâd i ni i wneud hyn.
A gaiff fy mhlentyn ei dalu am gymryd rhan?

Ni fyddwn yn talu eich plentyn am gymryd rhan, ond bob blwyddyn, ar ôl iddynt gwblhau’r holiadur hir, byddwn yn rhoi tocyn £10 iddynt i ddweud diolch bob blwyddyn maent yn ei gwblhau.

Beth sy’n digwydd os nad yw fy mhlentyn am gymryd rhan neu’n newid ei feddwl?

Mae’ch plentyn yn rhydd i orffen gyda’r astudiaeth ar unrhyw bryd heb orfod rhoi rheswm. Darparwn lythyr syml iddynt y gellir anfon atom drwy’r post neu e-bost i ddweud ei fod ddim am gymryd rhan mwyach. Does dim rhaid iddynt esbonio pam. Ond, ni fydd yn bosib dileu data eich plentyn o’r astudiaeth ar ôl iddynt gael eu cynnwys yn y dadansoddiad (mi fydd hyn yn digwydd o fewn un mis). Nid yw hyn yn cael effaith ar ei hawliau diogelu data.

Pa ddata a gesglir am fy mhlentyn?

Er mwyn i’ch plentyn allu cymryd rhan yn yr astudiaeth ymchwil bydd rhaid i ni gasglu gwybodaeth a all ei adnabod. Gelwir hyn yn “wybodaeth bersonol adnabyddadwy”. Yn benodol, mae’n rhaid i ni gasglu:

  • Enw’ch plentyn
  • Ei rhyw
  • Ei gefndir ethnig
  • Ei oedran
  • Ei fanylion cyswllt (e.e. rhif testun, e-bost, cyfeiriad cartref a chôd post)
Ar ba sail gyfreithiol ydych chi’n casglu’r wybodaeth hon?

Rydyn ni’n casglu a chadw’r wybodaeth adnabyddadwy bersonol hon yn unol â chyfreithiau diogelu data sy’n diogelu hawliau eich plentyn. Mae’r gyfraith yn ein galluogi ni i gasglu a chadw ei fanylion personol oherwydd mae’n “dasg er budd y cyhoedd” ac yn “broses sy’n angenrheidiol ar gyfer dibenion ymchwil”.

Beth yw hawliau fy mhlentyn mewn perthynas â’r wybodaeth rydych chi’n ei chasglu amdanynt?

Mae gan eich plentyn sawl hawl o dan gyfraith diogelu data, yn cynnwys yr hawl i weld unrhyw wybodaeth maent wedi’i rhannu gyda ni. Os hoffech chi neu’ch plentyn wybod mwy am ei hawliau neu i wybod y rheswm cyfreithiol rydyn ni’n casglu a defnyddio gwybodaeth, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranogwyr Ymchwil. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn hefyd ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain, a fformat Hawdd ei Ddeall.

A fydd cyfranogiad fy mhlentyn yn yr astudiaeth yn gyfrinachol?

Dim ond y tîm ymchwil fydd yn cael mynediad at wybodaeth am eich plentyn a’i fanylion cyswllt a sicrhawn byddant yn cael eu cadw’n ddiogel. Byddwn yn dilyn cyfraith diogelu data. Prifysgol Manceinion yw’r Rheolydd Data ar gyfer y prosiect hwn, sy’n golygu mai ni sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel, yn gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio yn y modd a ddywedwyd wrthych. Mae pob ymchwiliwr ar y prosiect READY wedi derbyn hyfforddiant i wneud hyn a byddwn yn sicrhau y cedwir gwybodaeth eich plentyn yn ddiogel.

Ni fyddwn yn datgelu enwau unrhyw un sydd wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth READY. Ond, weithiau efallai bydd rhaid i ni ddweud wrth bobl arall os ydyn ni’n poeni am rywbeth mae’ch plentyn wedi dweud wrthym yn ystod yr astudiaeth. Er enghraifft:

  • Os, yn ystod yr astudiaeth, rydyn ni’n pryderu am ddiogelwch eich plentyn neu ddiogelwch eraill, bydd rhaid i ni ddweud wrth bobl/yr awdurdodau perthnasol.
  • Os, yn ystod yr astudiaeth, mae’ch plentyn yn dweud wrthym am weithgareddau anghyfreithlon sy’n digwydd nawr neu yn y dyfodol rydyn ni o dan orfodaeth gyfreithlon i adrodd hyn ac felly bydd rhaid i ni ddweud wrth bobl/yr awdurdodau perthnasol.

Defnyddir ffugenwau am yr holl wybodaeth mae’ch plentyn yn ei rhoi i ni yn yr holiaduron. Mae hyn yn golygu y defnyddir côd yn lle enw a chedwir enw eich plentyn mewn lle gwahanol i weddill y wybodaeth maent yn ei rhoi i ni.

Cadwn y wybodaeth mae’ch plentyn yn darparu i ni am chwe blynedd ar ôl diwedd yr astudiaeth ymchwil. Ar ôl i’r astudiaeth orffen byddwn yn casglu atebion dienw i’r holiaduron o bawb sydd wedi cymryd rhan a chedwir y rhain mewn archif ddata ddiogel er mwyn i ymchwilwyr eraill gael eu defnyddio yn y dyfodol.

  • Mi fydd yn amhosib i unrhyw un i gysylltu gwybodaeth bersonol eich plentyn gyda’r casgliad o atebion a rhoddir yn yr archif.
  • Ni throsglwyddwn fanylion personol eich plentyn (fel ei enw a’i fanylion cyswllt) i’r archif.

Gofynnwn i’ch plentyn ar ddiwedd yr astudiaeth (neu’n gynt os ydynt yn penderfynu gorffen) a fyddant yn rhoi ei ganiatâd i ni gadw ei enw a’i fanylion cyswllt yn ddiogel ym Mhrifysgol Manceinion am gyfnod o 15 mlynedd. Mae hyn oherwydd efallai byddwn ni eisiau cysylltu â nhw eto yn y dyfodol am astudiaethau ymchwil eraill neu i weld beth sydd wedi digwydd iddynt ar ôl i astudiaeth READY orffen. Does dim rhaid i’ch plentyn cytuno i ni gadw mewn cysylltiad â nhw. Os nad ydynt am i ni gadw ei fanylion cyswllt, byddwn yn eu dinistrio ar ddiwedd ei gyfranogiad yn astudiaeth READY ac yn dweud wrthynt ein bod ni wedi’i wneud.

Beth os ydw i neu fy mhlentyn am wneud cwyn?

Gallwch chi neu’ch plentyn gysylltu â’r tîm ymchwil yn uniongyrchol. Mae’r manylion isod. Os bydd yn well gennych chi neu’ch plentyn gysylltu â rhywun annibynnol, gallwch gysylltu â:

  • The Research Governance and Integrity Officer, Research Office, Christie Building, The University of Manchester, Oxford Road, Manchester, M13 9PL, trwy anfon e-bost at: research.complaints@manchester.ac.uk  neu drwy ffonio 0161 275 2674.
  • Os hoffech gysylltu â ni am eich hawliau diogelu data, anfonwch e-bost at dataprotection@manchester.ac.uk neu ysgrifennwch at The Information Governance Office, Christie Building, The University of Manchester, Oxford Road, M13 9PL. Byddent yn eich arwain trwy’r broses o arfer eich hawliau.
  • Hefyd mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am gwynion mewn perthynas â’ch gwybodaeth adnabyddadwy bersonol drwy sgwrs destun fyw ar ei wefan neu Ffôn 0303 123 1113
Manylion Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y wybodaeth yn y daflen hon, rhowch wybod i ni:

Os hoffech wybod mwy am yr astudiaeth READY, ymwelwch â’n gwefan: insert URL for the specific study website.

Os yw’ch plentyn eisiau cymryd rhan, cliciwch ar y ffurflen ganiatâd a gawsoch drwy e-bost.