Taflen Wybodaeth I Gyfranogwyr (holiadur byr ac arolwg blynyddol)
Pwy sy’n cynnal yr ymchwil?
Rydyn ni’n dîm o ymchwilwyr o Brifysgol Manceinion a Phrifysgol Caeredin, yn cydweithio ar astudiaeth ymchwil o’r enw READY (Recording Emerging Adulthood in Deaf Youth). Mae’r tîm ymchwil yn cynnwys pobl sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc sy’n fyddar. Defnyddiwn y gair ‘byddar’ i olygu unrhyw lefel o golled clyw: mân, cymedrol, difrifol, llwyr, neu mewn un glust yn unig.
Cwrdd â’r tîm:

Efallai bydd ymchwilwyr a myfyrwyr PhD eraill yn ymuno â ni yn ddiweddarach a gweithio fel rhan o’r tîm prosiect.
Hoffem eich gwahodd chi i gymryd rhan mewn ein hastudiaeth ymchwil.
Cyn i chi benderfynu os hoffech gymryd rhan, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall:
- Pam mae’r ymchwil yn cael ei wneud
- Beth fydd eich rhan yn yr astudiaeth ymchwil?
Cymerwch eich amser i ddarllen trwy’r daflen wybodaeth hon cyn i chi benderfynu os ydych chi am gymryd rhan. Gofynnwch gymaint o gwestiynau ag y dymunwch. Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain a Chymraeg llafar â chymorth arwyddion drwy.
Beth yw pwrpas yr ymchwil?
Hoffem wybod mwy am bobl ifanc byddar rhwng 16 a 23 oed. Mi fydd y prosiect yn gofyn cwestiynau i bobl ifanc byddar am eu bywydau a sut mae’r rhain yn newid unwaith y flwyddyn am hyd at bum mlynedd. Mi fydd yr astudiaeth yn archwilio pynciau fel lles personol pobl ifanc byddar, profiadau gwaith ac addysg, pa wasanaethau ydynt yn eu defnyddio a sut ydynt yn datblygu annibyniaeth a chysylltiadau gydag eraill. Mae’r cyfnod rhwng 16 a 23 oed yn amser pan mae llawer o bethau yn newid i bob person ifanc a’r astudiaeth READY yw’r un cyntaf i ddilyn y newidiadau hynny dros amser gyda phobl ifanc byddar eu hunain. Mi fydd y canlyniadau yn helpu pobl yn y dyfodol i ddarparu mwy o gymorth i bobl ifanc byddar, i gael gwybod beth yn union mae pobl ifanc byddar wir eisiau wrth iddynt dyfu’n oedolion a’r heriau maent yn eu hwynebu.
Pwy sy’n trefnu ac yn cymeradwyo’r ymchwil?
Trefnir yr ymchwil gan Brifysgol Manceinion a Phrifysgol Caeredin. Mae’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi gofyn i’r prifysgolion wneud yr ymchwil hwn.
Cymeradwywyd yr ymchwil gan Brifysgol Manceinion Pwyllgor Moeseg 2 [ref:2019-4903-10668], grŵp o bobl sy’n gweithio i ddiogelu eich diogelwch, hawliau, lles ac urddas.
A gaiff canlyniadau’r astudiaeth eu cyhoeddi?
Ie. Mi fydd yr astudiaeth yn cyhoeddi ei chanlyniadau yn Saesneg ysgrifenedig ac Iaith Arwyddion Prydain. Mi fydd y wybodaeth ar gael ar wefan astudiaeth arbennig yn ogystal â chael ei chyhoeddi mewn llyfrau a phapurau academaidd. Mi fydd aelodau tîm yr astudiaeth hefyd yn rhoi cyflwyniadau am yr hyn rydyn ni’n ei ddarganfod.
Pam ydw i wedi cael fy ngofyn i gymryd rhan?
Rydyn ni wedi gofyn i chi gymryd rhan oherwydd rydych chi’n berson ifanc byddar a fydd rhwng 16 a 18 oed pan fydd yr astudiaeth yn dechrau.
Beth fydd rhaid i mi ei wneud os ydw i’n cytuno i gymryd rhan?
Yn gyntaf, gofynnir i chi gwblhau holiadur byr. Bydd yn cymryd tua 5 i 10 munud yn unig. Mae’r holiadur yn gofyn am wybodaeth am eich oedran, rhyw, cefndir ethnig yn ogystal â lefel eich byddardod, ble rydych chi’n astudio neu weithio a’ch dewis dull cyfathrebu / iaith / ieithoedd. Byddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth am sut i gysylltu â chi eto. Gallwch gwblhau’r holiadur ar-lein, ar ddyfais symudol neu gyfrifiadur. Mae angen arnom y wybodaeth hon i benderfynu os fydd yn bosib i chi ymuno â’r astudiaeth ymchwil READY. Mi fydd yr holiadur byr ar gael yn Saesneg, Cymraeg, Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg llafar â chymorth arwyddion a Chymraeg llafar â chymorth arwyddion . Os oes angen iaith arall arnoch, gallwch ofyn amdani.
Ar ôl i chi anfon eich atebion i’r holiadur byr yn ôl i ni, gall un o dri pheth ddigwydd.
- Efallai cewch eich gwahodd i ymuno â’r astudiaeth READY a byddwn yn anfon holiadur hiraf i chi i’w gwblhau. Mi fydd yn cymryd tua 30 i 40 munud i’w gwblhau. Gallwch gwblhau’r holiadur ar-lein, ar ddyfais symudol neu gyfrifiadur. Gallwch ddewis ble i wneud hyn. Os bydd copi papur yn well gennych, rhowch wybod i ni ac anfonwn un atoch. Mi fydd yr holiadur hefyd ar gael yn Gymraeg, Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg llafar â chymorth arwyddion a Chymraeg llafar â chymorth arwyddion. Hoffem ei anfon atoch bob blwyddyn am bedair blynedd, ond bob blwyddyn byddwn ni’n cysylltu â chi yn gyntaf i sicrhau eich bod chi dal eisiau cymryd rhan yn yr astudiaeth.
NEU
- Rhoddir eich enw ar restr aros i ymuno â’r astudiaeth. Mae hyn y golygu mae’n bosib hoffem eich cynnwys yn yr astudiaeth ond nid yn syth. Y rheswm dros aros yw sicrhau bod cydbwysedd da o bobl ifanc byddar yn yr ymchwil sydd â chefndiroedd gwahanol a gwahanol nodweddion. E.e. mae angen arnom gydbwysedd o fechgyn a merched, pobl ifanc sy’n dewis siarad a’r rheini sy’n dewis arwyddo, pobl ifanc sy’n gwneud prentisiaethau a’r rheini sydd mewn addysg uwch, rhai sy’n hollol fyddar a rhai sydd â cholled clyw mân, ayb. Mae’r gwahaniaethau hyn yn bwysig ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y bobl ifanc yn y grŵp ddim yn rhy debyg i’w gilydd. Felly nid yw’n bosib dweud ‘ie’ i bawb yn syth oherwydd gall hyn olygu bod yr astudiaeth llawn bobl sydd â chefndiroedd a nodweddion tebyg. Ni fydd rhaid i chi aros mwy nag wyth wythnos cyn i ni eich cysylltu â chi eto. Wedyn, byddwn ni naill ai yn eich gwahodd chi i gwblhau’r holiadur hir neu byddwn yn esbonio i chi pam na allwn eich cynnwys yn yr astudiaeth ar hyn o bryd. Os cewch eich gwahodd i gwblhau’r holiadur hir, bydd yn cymryd tua 30 i 40 munud i’w hateb. Hoffem ei anfon atoch bob blwyddyn am bedair blynedd, ond bob blwyddyn byddwn ni’n cysylltu â chi yn gyntaf i sicrhau eich bod chi dal eisiau cymryd rhan yn yr astudiaeth.
NEU
- Byddwn yn rhoi gwybod i chi nad ydych yn gallu cymryd rhan yn yr astudiaeth READY. Er enghraifft efallai bod yr astudiaeth yn llawn yn barod neu roedd rhai o’ch gwybodaeth yn golygu nad ydych yn gymwys i gymryd rhan. Ond byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda chi os hoffech i ni ddweud mwy wrthych am yr astudiaeth a sut mae’n datblygu. Bydd rhaid i chi roi caniatâd i ni wneud hyn.
A fyddaf yn cael fy nhalu am gymryd rhan?
Ni fyddwn yn eich talu chi i gymryd rhan, ond bob blwyddyn, ar ôl i chi gwblhau’r holiadur hir, byddwn yn rhoi tocyn £10 i chi i ddweud diolch.
A oes rhaid i mi gymryd rhan?
Na. Eich dewis chi yn hollol yw cymryd rhan yn yr astudiaeth neu beidio. Os ydych chi’n penderfynu cymryd rhan, gofynnir i chi lofnodi ffurflen ganiatâd sy’n dangos eich bod chi’n deall ac yn cytuno i gwblhau’r holiadur byr. Os cewch eich dewis ar gyfer yr astudiaeth READY lawn ac yn penderfynu cwblhau’r holiadur hir hefyd, anfonir ffurflen ganiatâd wahanol atoch sy’n dangos eich bod chi’n deall ac yn cytuno i gwblhau’r holiadur yna. Hefyd gofynnwn i chi gytuno eich bod yn hapus i gael eich cysylltu eto ymhen blwyddyn.
Bob blwyddyn yr anfonwn yr holiadur hir atoch gofynnir i chi gwblhau ffurflen ganiatâd eto. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod chi dal eisiau cymryd rhan. Gallwch ddewis i beidio parhau i gymryd rhan yn yr astudiaeth pan ydyn ni’n cysylltu â chi bob blwyddyn. Darparwn lythyr syml i chi y gallwch anfon atom drwy’r post neu e-bost i ddweud eich bod chi ddim am gymryd rhan mwyach. Does dim rhaid i chi esbonio pam. Ond, ni fydd yn bosib dileu eich data o’r astudiaeth ar ôl iddynt gael eu cynnwys yn y dadansoddiad (mi fydd hyn yn digwydd o fewn un mis). Nid yw hyn yn cael effaith ar eich hawliau diogelu data.
Os ydych yn iau na 16 oed pan ofynnwn i chi gwblhau’r holiadur bur, gofynnwn i chi lofnodi ffurflen arall (o’r enw ffurflen gydsyniad) i ddangos eich bod chi’n deall ac yn cytuno i gymryd rhan, ond hefyd bydd angen arnom i’ch rhiant/gwarchodwr lofnodi ffurflen ganiatâd i ddangos ei fod nhw hefyd yn cytuno i chi gymryd rhan. Ni ofynnir i chi gwblhau’r holiadur hir nes i chi gyrraedd 16 oed.
Beth os ydw i’n newid fy meddwl?
Rydych chi’n rhydd i orffen gyda’r astudiaeth ar unrhyw bryd heb orfod rhoi rheswm. Os ydych yn penderfynu tynnu’n ôl, defnyddir unrhyw ddata sydd wedi’u casglu oddi wrthych yn barod yn ein dadansoddiad terfynol. Cofiwch bydd eich data yn ddienw a ni fydd yn bosib eich adnabod mewn unrhyw ffordd.
Pa wybodaeth byddwch chi’n casglu amdana i?
Er mwyn ichi allu cymryd rhan yn yr astudiaeth ymchwil bydd rhaid i ni gasglu gwybodaeth a all eich adnabod. Gelwir hyn yn “wybodaeth bersonol adnabyddadwy”. Yn benodol, mae’n rhaid i ni gasglu:
- Eich enw
- Eich rhyw
- Eich cefndir ethnig
- Eich oedran
- Eich manylion cyswllt (e.e. rhif testun, e-bost, cyfeiriad cartref a chôd post)
Ar ba sail gyfreithiol ydych chi’n casglu’r wybodaeth hon?
Rydyn ni’n casglu a chadw’r wybodaeth adnabyddadwy bersonol hon yn unol â chyfreithiau diogelu data sy’n diogelu eich hawliau. Mae’r gyfraith yn ein galluogi ni i gasglu a chadw eich manylion personol oherwydd mae’n “dasg er budd y cyhoedd” ac yn “broses sy’n angenrheidiol ar gyfer dibenion ymchwil”.
Beth yw fy hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth rydych chi’n ei chasglu amdana i?
Mae gennych sawl hawl o dan gyfraith diogelu data, yn cynnwys yr hawl i weld unrhyw wybodaeth rydych chi wedi’i rhannu gyda ni. Os hoffech wybod mwy am eich hawliau neu i wybod y rheswm cyfreithiol rydyn ni’n casglu a defnyddio eich gwybodaeth, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranogwyr Ymchwil neu siaradwch â’ch rhiant/gwarchodwr. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn hefyd ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain, a fformat Hawdd ei Ddeall.
Will my participation in the study be confidential?
A fydd fy nghyfranogiad yn yr astudiaeth yn gyfrinachol?
Ni fyddwn yn datgelu enwau unrhyw un sydd wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth READY. Ond, weithiau efallai bydd rhaid i ni ddweud wrth bobl arall os ydyn ni’n poeni amdanoch chi neu os ydych chi’n dweud wrthym am rywbeth sy’n torri’r gyfraith. Er enghraifft:Dim ond y tîm ymchwil fydd yn cael mynediad at wybodaeth amdanoch chi a’ch manylion cyswllt a sicrhawn byddant yn cael eu cadw’n ddiogel. Byddwn yn dilyn y gyfraith diogelu data.
Prifysgol Manceinion yw’r Rheolydd Data ar gyfer y prosiect hwn, sy’n golygu mai ni sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel, yn gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio yn y modd a ddywedwyd wrthych. Mae pob ymchwiliwr ar y prosiect READY wedi derbyn hyfforddiant i wneud hyn a byddwn yn sicrhau y cedwir eich gwybodaeth yn ddiogel.
- Os, yn ystod yr astudiaeth, rydyn ni’n pryderu am eich diogelwch neu ddiogelwch eraill, bydd rhaid i ni ddweud wrth rywun fel eich meddyg teulu, gwasanaethau cymdeithasol neu aelod o’r teulu.
- Os, yn ystod yr astudiaeth, rydych chi’n dweud wrthym am weithgareddau anghyfreithlon sy’n digwydd nawr neu yn y dyfodol rydyn ni o dan orfodaeth gyfreithlon i adrodd hyn ac felly bydd rhaid i ni ddweud wrth yr awdurdodau perthnasol.
Defnyddir ffugenwau am yr holl wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni yn yr holiaduron. Mae hyn yn golygu y byddwn yn creu côd cyfrinachol ar eich cyfer ac yn sicrhau bod eich enw yn cael ei gadw mewn lle gwahanol i weddill y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth rydych chi’n rhoi i ni am chwe blynedd ar ôl diwedd yr astudiaeth ymchwil. Ar ôl i’r astudiaeth orffen byddwn yn casglu atebion dienw i’r holiaduron o bawb sydd wedi cymryd rhan a chedwir y rhain mewn archif ddata ddiogel er mwyn i ymchwilwyr eraill gael eu defnyddio yn y dyfodol.
- Mi fydd yn amhosib i unrhyw un i gysylltu eich gwybodaeth bersonol gyda’r casgliad o atebion a rhoddir yn yr archif.
- Ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion personol (fel eich enw a’ch manylion cyswllt) i’r archif.
Gofynnwn i chi ar ddiwedd yr astudiaeth (neu’n gynt os ydych chi’n penderfynu gorffen) a fyddech yn rhoi’ch caniatâd i ni gadw eich enw a’ch manylion cyswllt yn ddiogel ym Mhrifysgol Manceinion am gyfnod o 15 mlynedd. Mae hyn oherwydd efallai byddwn ni eisiau cysylltu â chi eto yn y dyfodol am astudiaethau ymchwil eraill. Os nad ydych chi am i ni gadw’ch manylion cyswllt, byddwn yn eu dinistrio ar ddiwedd eich cyfranogiad yn astudiaeth READY ac yn dweud wrthych ein bod ni wedi’i wneud.
Noder mae’n bosib bydd angen i unigolion o Brifysgol Manceinion neu awdurdodau rheoleiddio edrych ar y data a gesglir fel rhan o’r astudiaeth i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gynnal fel y cynlluniwyd. Gall hyn gynnwys edrych ar ddata adnabyddadwy. Mi fydd gan bob unigolyn sy’n archwilio a monitro’r astudiaeth ddyletswydd o gyfrinachedd lem i chi fel cyfranogwr ymchwil.
Beth os ydw i am wneud cwyn?
Gallwch gysylltu â’r tîm ymchwil yn uniongyrchol. Mae’r manylion isod. Os bydd yn well gennych gysylltu â rhywun annibynnol, gallwch gysylltu â:
- The Research Governance and Integrity Officer, Research Office, Christie Building, The University of Manchester, Oxford Road, Manchester, M13 9PL, trwy e-bost: research.complaints@manchester.ac.uk neu drwy ffonio 0161 275 2674.
- Os hoffech ofyn am eich hawliau diogelu data, anfonwch e-bost at dataprotection@manchester.ac.uk neu ysgrifennwch at The Information Governance Office, Christie Building, The University of Manchester, Oxford Road, M13 9PL. Byddent yn eich arwain trwy’r broses o arfer eich hawliau.
- Hefyd mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am gwynion mewn perthynas â’ch gwybodaeth adnabyddadwy bersonol drwy sgwrs destun fyw ar ei wefan neu Ffôn 0303 123 1113.
Beth ddylwn ei wneud nawr?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y wybodaeth yn y daflen hon, rhowch wybod i fi:
- Ymchwiliwr: ready@manchester.ac.uk
- Arolygydd Ymchwil: Alys Young – alys.young@manchester.ac.uk
Os hoffech wybod mwy am yr astudiaeth READY, ymwelwch â’n gwefan.
Os hoffech gymryd rhan, ewch i’r ffurflen gydsynio a gawsoch drwy e-bost.
Diolch am ddarllen hwn!