Cymorth a chefnogaeth

Mae’r astudiaeth READY yn ymwneud â thyfu i fyny. Gall cymryd rhan olygu eich bod chi’n dechrau meddwl am bethau newydd yn eich bywyd. Neu rydych chi eisiau gwybodaeth newydd. Neu rydych chi am drafod rhywbeth sy’n eich poeni chi gyda pherson arall. Gallwch ddod o hyd yma fanylion gwahanol bobl a sefydliadau y gallwch gysylltu â nhw.

Return to English version here.

Tîm “The READY Study”

Diolch am gymryd rhan mewn yr astudiaeth READY. Gobeithiwn ei fod wedi bod o ddiddordeb i chi ac nid oedd unrhyw rhai o’r pynciau wedi peri gofid i chi. Ond, os ydy unrhyw ran o’r profiad hwn wedi peri gofid i chi a hoffech siarad ag un o’r ymchwilwyr, cysylltwch â Claire Dodds, un o gydlynwyr yr astudiaeth, yn y lle cyntaf. Mae hi’n gallu trafod unrhyw beth y dymunwch mewn Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg llafar neu allu awgrymu eich bod chi’n siarad ag aelod arall o dîm yr astudiaeth os yw hynny’n fwy priodol.

E-bost: claire.dodds@postgrad.manchester.ac.uk

 

Sefydliadau Eraill

Hefyd gallwch gysylltu â nifer o sefydliadau sydd ar wahan i’r astudiaeth READY am gymorth, os oes angen arnoch:

 

Childline 

Mae Childline yn wasanaeth preifat a chyfrinachol di-dâl ar gyfer plant a phobl ifanc. Gallwch siarad â Childline am unrhyw beth. Does dim problem sydd yn rhy fawr neu’n rhy fach.

Sgwrs ar-lein: Gallwch siarad â chynghorwr ar-lein un-i-un trwy ddefnyddio’r cyfleuster sgwrsio. Teipiwch yr hyn yr ydych am ei ddweud, ac mae’r cynghorydd yn teipio yn ôl. Mae’r ddolen uchod yn esbonio sut.

Fideo: Gallwch siarad â chynghorydd mewn Iaith Arwyddion Prydain trwy ddehonglydd SignVideo os oes gennych we-gam. Dilynwch y ddolen hon ac wedyn dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr adran ‘Chat or sign to a counsellor’ i gysylltu trwy ddefnyddio SignVideo. Mae’r gwasanaeth yn ddi-dâl ac ar agor Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am-8pm. Dydd Sadwrn, 8am-1pm.

E-bost: Gallwch anfon e-bost ac mi fydd Childline yn ymateb (fel arfer o fewn 24 awr). Mae’r ddolen uchod yn esbonio sut.

Ffôn: Os allwch ddefnyddio’r ffôn heb wasanaeth cyfnewid, gallwch alw am ddim ar 0800 1111.

SignHealth – The Deaf Health Charity 

Mae SignHealth yn elusen sy’n cefnogi pobl fyddar o bob oedran sydd â phroblemau iechyd meddwl a chorfforol. Maent yn rheoli gwasanaeth cynghori i bobl fyddar.

Fideo: Gallwch gysylltu â SignHealth mewn Iaith Arwyddion Prydain, yn defnyddio gwasanaeth dehongli ar-lein. Mae ar agor o 9am i 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut i’w wneud ar y wefan hon.

Ffôn: Os allwch ddefnyddio’r ffôn heb wasanaeth cyfnewid, gallwch alw 014946 87606.

SMS/neges destun: 07966976747

E-bost: therapies@signhealth.org.uk  

Cymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS)

Mae gan NDCS lot o wybodaeth i bobl ifanc ar ei brif wefan. Gallwch ddod o hyd i’w tudalennau Help and Support drwy’r ddolen hon.

Mae ei gwefan BUZZ ar gyfer pobl ifanc byddar hefyd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor a all fod yn ddefnyddiol i chi. Os hoffech siarad â rhywun, mae gan NDCS Linell Gymorth

Ffôn: Os allwch ddefnyddio’r ffôn heb wasanaeth cyfnewid, gallwch alw am ddim ar 0808 800 8880. Mae dehonglwyr iaith lafar ar gael os ydych yn siarad ychydig o Saesneg yn unig. Mae’r llinell ffôn ar agor Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am–5pm

E-bost: helpline@ndcs.org.uk

Fideo: Gallwch gysylltu â’r Gymdeithas Genedlaethol i Bant Byddar drwy wneud galwad ffôn fideo di-dâl drwy ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yn defnyddio’r ap dehongli fideo Interpreter Now BSL. Mae’r gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain ar agor Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 5pm. Dilynwch y ddolen hon i weld sut i ddefnyddio’r gwasanaeth.

Shout 

Mae Shout yn wasanaeth destun 24/7 i unrhyw un mewn argyfwng unrhyw bryd, unrhyw le. Mae’n lle i fynd os ydych yn ei chael hi’n anodd ymdopi ac mae angen cymorth arnoch ar unwaith.

Tecstiwch DEAF ar 85258 neu cysylltwch â nhw trwy eu gwefan os oes angen help arnoch ar frys.

Taking part

If you want to join The READY Study, please complete this survey