Participant Information Sheet – Interview

Pwy sy’n Cynnal yr Ymchwil?

Rydyn ni’n dîm o ymchwilwyr o Brifysgol Manceinion a Phrifysgol Caeredin, yn cydweithio ar astudiaeth ymchwil o’r enw READY (Recording Emerging Adulthood in Deaf Youth). Mae’r tîm ymchwil yn cynnwys pobl sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc sy’n fyddar. Defnyddiwn y gair ‘byddar’ i olygu unrhyw lefel o golled clyw: mân, cymedrol, difrifol, llwyr, neu mewn un glust yn unig.

Cwrdd â’r tîm:

Efallai bydd myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr eraill yn ymuno â ni yn ddiweddarach a gweithio fel rhan o’r tîm.

Yn barod rydych chi wedi cytuno i gymryd rhan yn yr astudiaeth READY drwy gwblhau arolygon blynyddol. Nawr hoffwn eich gwahodd chi i gymryd rhan mewn sawl cyfweliad ar gyfer yr astudiaeth READY. Gwahoddiad yw hwn – does dim rhaid i chi gytuno ac os nad ydych chi eisiau gwneud cyfweliad rydych chi dal yn rhan o’r astudiaeth READY.

Cyn i chi benderfynu os hoffech gymryd rhan mewn cyfweliad, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall:

  • 1. Pam mae’r cyfweliadau yn cael eu cynnal
  • 2. Beth fyddai’n cael ei gynnwys, os ydych chi’n cytuno i gymryd rhan

Cymerwch eich amser i ddarllen trwy’r daflen wybodaeth hon cyn i chi benderfynu os ydych chi am gymryd rhan. Gofynnwch gymaint o gwestiynau ag y dymunwch. Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain trwy, Saesneg llafar â chymorth arwyddion drwy, a Chymraeg llafar â chymorth arwyddion drwy.

This page is also available in English, BSL and Sign Supported spoken English.

Beth yw pwrpas yr ymchwil?

Yn ddiweddar, cwblhaoch arolwg ar-lein ar gyfer yr astudiaeth READY. Mae’r astudiaeth hon yn ceisio cael gwybod mwy am bobl ifanc byddar rhwng 16 a 23 oed. Fel y gwyddoch, mae diddordeb gennym i archwilio pynciau fel lles personol pobl ifanc byddar, profiadau gwaith ac addysg, pa wasanaethau ydynt yn eu defnyddio a sut ydynt yn datblygu annibyniaeth a chysylltiadau gydag eraill. Mae’r cyfnod rhwng 16 a 23 oed yn amser pan mae llawer o bethau yn newid i bob person ifanc a’r astudiaeth READY yw’r un cyntaf i ddilyn y newidiadau hynny dros amser gyda phobl ifanc byddar eu hunain. Mae cwblhau’r arolwg blynyddol wedi rhoi lot o wybodaeth i ni ond nawr rydyn ni am gyfweld pobl ifanc byddar hefyd er mwyn trafod rhai o’r pynciau yn fwy manwl ac i ddysgu mwy am eich profiadau personol. Mi fydd canlyniadau’r astudiaeth READY yn helpu pobl yn y dyfodol i ddarparu mwy o gymorth i bobl ifanc byddar, i gael gwybod beth yn union mae pobl ifanc byddar eisiau wrth iddynt dyfu’n oedolion a’r heriau maent yn eu hwynebu.

Pwy sy’n trefnu ac yn cymeradwyo’r ymchwil?

Trefnir yr ymchwil gan Brifysgol Manceinion a Phrifysgol Caeredin. Mae’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi gofyn i’r prifysgolion wneud yr ymchwil hwn.

Cymeradwywyd yr ymchwil gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Rhif 2 [Cyf: 2019-4903-10668], grŵp o bobl sy’n gweithio i ddiogelu eich diogelwch, hawliau, lles ac urddas.

A gaiff canlyniadau’r astudiaeth eu cyhoeddi?

Ie.  Mi fydd yr astudiaeth READY yn cyhoeddi ei chanlyniadau yn Saesneg ysgrifenedig ac yn Iaith Arwyddion Prydain. Mi fydd y wybodaeth ar gael ar wefan astudiaeth arbennig yn ogystal â chael ei chyhoeddi mewn llyfrau a phapurau academaidd. Mi fydd aelodau tîm yr astudiaeth hefyd yn rhoi cyflwyniadau am yr hyn rydyn ni’n ei ddarganfod.

Pam ydw i wedi cael fy ngofyn i gymryd rhan mewn cyfweliadau?

Rydyn ni wedi gofyn i chi i gymryd rhan mewn cyfweliadau oherwydd rydych yn barod yn rhan o’r astudiaeth READY a dywedoch fod diddordeb gennych mewn cael cyfweliad.

Pwy fydd yn cynnal y cyfweliadau?

Efallai bydd yna dau berson a fydd yn gwneud y cyfweliad gyda chi. Mi fydd y cyntaf yn ymchwiliwr profiadol iawn o naill ai Prifysgol Manceinion neu Brifysgol Caeredin. Yr ail berson a gall fod gyda nhw bydd person ifanc byddar fel chi sydd wedi cael hyfforddiant arbennig i gynnal cyfweliad gyda pherson ifanc byddar arall. Mae hyn yn golygu byddwch yn siarad â rhywun o oedran tebyg i chi sydd hefyd yn cael profiad o fod yn fyddar. Mi fydd pob ymchwiliwr sy’n gwneud cyfweliadau wedi cael gwiriad lefel ehangach gan y GDG drwy Brifysgol Manceinion neu Brifysgol Caeredin i sicrhau eu bod yn gymwys i wneud y gwaith hwn. Mi fydd pob un o’r cyfwelwyr yn gallu addasu eu dull cyfathrebu / iaith fel ei fod mwyaf addas i chi (Saesneg llafar, Saesneg â chymorth arwyddion,  Iaith Arwyddion Prydain, ayb).

Beth fydd rhaid i mi ei wneud os ydw i’n cytuno i gymryd rhan?

Mi fydd aelod o’r tîm ymchwil yn cysylltu â chi i drefnu amser i’ch cwrdd â chi wyneb yn wyneb. Gallwch ddewis yr amser a’r lle i gwrdd. Gallwch ddarllen y daflen wybodaeth hon a gofyn unrhyw gwestiynau cyn ichi gwrdd â’r cyfwelydd (e-bost: READY@manchester.ac.uk), yn ogystal ag ar y diwrnod hefyd. Os ydych yn hapus i fynd ymlaen, gofynnir i chi gwblhau ffurflen ganiatâd i ddweud eich bod chi’n cytuno i gael y cyfweliad. Wedyn bydd y cyfwelydd yn gofyn sawl cwestiwn i chi am eich bywyd bob dydd, ffrindiau, defnydd iaith, lles ac annibyniaeth. Caiff y cyfweliad ei recordio gyda chamera digidol neu recordydd sain. Mi fydd y cyfweliad yn para tua 90 munud. Hoffwn wneud cyfweliad gyda chi bob blwyddyn am bedair blynedd, ond byddwn ni’n siarad gyda chi o flaen llaw bob blwyddyn i sicrhau eich bod chi dal eisiau cymryd rhan yn y cyfweliad.

A fyddaf yn cael fy nhalu?

Ni fyddwn yn eich talu chi i gymryd rhan yn y cyfweliad, ond os bydd rhaid i chi dalu i deithio i’r cyfweliad, byddwn yn eich talu chi yn ôl. Byddwn hefyd yn rhoi tocyn £20 i chi bob blwyddyn, ar ôl i chi gael cyfweliad i ddweud diolch.

Beth os nad ydw i eisiau cymryd rhan neu os ydw i’n newid fy meddwl?

Eich dewis chi yn hollol yw cymryd rhan yn y cyfweliad neu beidio. Gallwch ddarllen y daflen wybodaeth hon a gofyn unrhyw gwestiwn i’r tîm ymchwilio, neu siarad â phobl eraill (e.e. ffrindiau neu deulu) cyn i chi benderfynu.

Os ydych chi’n penderfynu cymryd rhan, gofynnir i chi lofnodi ffurflen ganiatâd sy’n dangos eich bod chi’n deall ac yn cytuno i gael y cyfweliad. Caiff y cyfweliadau eu recordio gyda chamerâu digidol neu recordyddion sain. Mae’n rhaid i ni recordio’r cyfweliadau fel y gallwn wirio unwaith eto beth ddywedoch chi’n ddiweddarach. Os nad ydych chi’n hapus i gael eich recordio, ni fydd y cyfweliad yn mynd yn ei flaen.

Gofynnwn i chi hefyd i gytuno i gael eich cysylltu eto mewn blwyddyn fel y gallwn drefnu’r cyfweliad nesaf. Bob blwyddyn gofynnwn i chi i gael cyfweliad, gofynnir i chi gwblhau ffurflen ganiatâd eto. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod chi eisiau cymryd rhan. Gallwch ddewis i beidio parhau gyda’r cyfweliadau pan ydyn ni’n cysylltu â chi bob blwyddyn (ond gallwch barhau gyda’r arolygon os ydych chi eisiau). Darparwn lythyr syml i chi y gallwch anfon atom drwy’r post neu e-bost i ddweud eich bod chi ddim am gymryd rhan mwyach. Does dim rhaid i chi esbonio pam. Ond, ni fydd yn bosib dileu eich data o’r astudiaeth ar ôl iddynt gael eu cynnwys yn y dadansoddiad (mi fydd hyn yn digwydd o fewn un mis). Nid yw hyn yn cael effaith ar eich hawliau diogelu data.

Os ydych chi’n newid eich meddwl yn ystod y cyfweliad, rydych chi’n rhydd i roi terfyn ar y cyfweliad ar unrhyw bryd heb orfod rhoi rheswm.

Pa wybodaeth byddwch chi’n casglu amdana i?

Oherwydd eich bod chi’n barod yn cyfrannu i’r astudiaeth READY, yn barod mae gennym rywfaint o wybodaeth a gall eich adnabod. Gelwir hyn yn “wybodaeth bersonol adnabyddadwy”. Yn benodol, rydych wedi dweud wrthym yn barod:

  • Eich enw
  • Eich rhyw
  • Eich cefndir ethnig
  • Eich oedran
  • Eich manylion cyswllt (e.e. rhif testun, e-bost, cyfeiriad cartref a chôd post)

Oherwydd byddwn yn recordio eich cyfweliad, mi fydd yn bosib gweld eich wyneb a’ch dwylo (neu eich llais, os ydyn ni’n recordio’r sain), mi fydd y recordiadau hyn hefyd yn “wybodaeth bersonol adnabyddadwy”.

Ar ba sail gyfreithiol ydych chi’n casglu’r wybodaeth hon?

Rydyn ni’n casglu a chadw’r wybodaeth adnabyddadwy bersonol hon yn unol â chyfreithiau diogelu data sy’n diogelu eich hawliau. Mae’r gyfraith yn ein galluogi ni i gasglu a chadw manylion personol oherwydd mae’n “dasg er budd y cyhoedd” ac yn “broses sy’n angenrheidiol ar gyfer dibenion ymchwil”.

Beth yw fy hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth rydych chi’n ei chasglu amdana i?

Mae gennych sawl hawl o dan gyfraith diogelu data, yn cynnwys yr hawl i weld unrhyw wybodaeth rydych chi wedi’i rhannu gyda ni, yn cynnwys yr hawl i ofyn am gopi o unrhyw recordiad ohonoch chi rydyn ni’n ei wneud. Of hoffech wybod mwy am eich hawliau neu i wybod y rheswm cyfreithiol rydyn ni’n casglu a defnyddio eich gwybodaeth, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranogwyr Ymchwil neu siaradwch â’ch rhiant / gwarchodwr. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn hefyd ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain, a fformat Hawdd ei Ddeall.

A fydd fy nghyfranogiad yn yr astudiaeth yn gyfrinachol?

Dim ond y tîm ymchwil fydd yn cael mynediad at wybodaeth amdannoch chi a’ch manylion cyswllt a sicrhawn byddant yn cael eu cadw’n ddiogel. Byddwn yn dilyn y gyfraith diogelu data.

Prifysgol Manceinion yw’r Rheolydd Data ar gyfer y prosiect hwn, sy’n golygu mai ni sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel, yn gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio yn y modd a ddywedwyd wrthych. Mae pob ymchwiliwr ar y prosiect READY wedi derbyn hyfforddiant i wneud hyn a byddwn yn sicrhau y cedwir eich gwybodaeth yn ddiogel.

Ni fyddwn yn datgelu enwau unrhyw un sydd wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth READY. Ond, weithiau efallai bydd rhaid i ni ddweud wrth bobl arall os ydyn ni’n poeni amdanoch chi neu os ydych chi’n dweud wrthym am rywbeth sy’n torri’r gyfraith. Er enghraifft:

  • Os, yn ystod yr astudiaeth, rydyn ni’n pryderu am eich diogelwch neu ddiogelwch rhywun arall, bydd rhaid i ni ddweud wrth yr awdurdodau/pobl berthnasol.
  • Os, yn ystod yr astudiaeth, rydych chi’n dweud wrthym am weithgareddau anghyfreithlon sy’n digwydd nawr neu yn y dyfodol rydyn ni o dan orfodaeth gyfreithlon i adrodd hyn ac felly bydd rhaid i ni ddweud wrth yr awdurdodau / pobl berthnasol.

Defnyddir ffugenwau am yr holl wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni yn ystod y cyfweliadau. Mae hyn yn golygu y byddwn yn creu côd cyfrinachol ar eich cyfer ac yn sicrhau bod eich enw yn cael ei gadw mewn lle gwahanol i weddill y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni. Mi fydd aelodau’r tîm ymchwil neu gyflenwyr sydd wedi’u cymeradwyo gan y Brifysgol yn trawsgrifio eich cyfweliad (mae hynny’n golygu byddant yn ysgrifennu’r hyn a ddywedir yn y cyfweliad). Mi fydd y trawsgrifydd yn dileu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy o’r trawsgrifiad.

Byddwn yn cadw’r wybodaeth rydych chi’n rhoi i ni am chwe blynedd ar ôl ddiwedd yr astudiaeth ymchwil. Ar ôl i’r astudiaeth orffen byddwn yn casglu atebion dienw i’r holiaduron o bawb sydd wedi cymryd rhan a chedwir y rhain mewn archif ddata ddiogel er mwyn i ymchwilwyr eraill gael eu defnyddio yn y dyfodol.

  • Mi fydd yn amhosib i unrhyw un i gysylltu eich gwybodaeth bersonol gyda thrawsgrifiadau’r cyfweliad a rhoddir yn yr archif.
  • Ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion personol (fel eich enw a’ch manylion cyswllt) i’r archif.
  • Ni fyddwn yn rhoi’r recordiadau gwreiddiol sy’n dangos eich wyneb neu’n cynnwys eich llais yn yr archif.

Gofynnwn i chi ar ddiwedd yr astudiaeth (neu’n gynt os ydych chi’n penderfynu gorffen) a fyddech yn rhoi’ch caniatâd i ni i gadw eich enw a’ch manylion cyswllt yn ddiogel ym Mhrifysgol Manceinion am gyfnod o 15 mlynedd. Mae hyn oherwydd efallai byddwn ni eisiau cysylltu â chi eto yn y dyfodol am astudiaethau ymchwil eraill. Os nad ydych chi am i ni gadw’ch manylion cyswllt, byddwn yn eu dinistrio ar ddiwedd eich cyfranogiad yn astudiaeth READY ac yn dweud wrthych ein bod ni wedi’i wneud.

Noder mae’n bosib bydd angen i unigolion o Brifysgol Manceinion neu awdurdodau rheoleiddio edrych ar y data a gesglir fel rhan o’r astudiaeth i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gynnal fel y cynlluniwyd. Gall hyn gynnwys edrych ar ddata adnabyddadwy. Mi fydd gan bob unigolyn sy’n archwilio a monitro’r astudiaeth ddyletswydd o gyfrinachedd lem i chi fel cyfranogwr ymchwil.

Beth os ydw i am wneud cwyn?

Gallwch gysylltu â’r tîm ymchwil yn uniongyrchol. Mae’r manylion isod. Os bydd yn well gennych gysylltu â rhywun annibynnol, gallwch gysylltu â:

The Research Governance and Integrity Officer, Research Office, Christie Building, The University of Manchester, Oxford Road, Manchester, M13 9PL, trwy e-bost: research.complaints@manchester.ac.uk  neu drwy ffonio 0161 275 2674.

Os hoffech ofyn am eich hawliau diogelu data, anfonwch e-bost at dataprotection@manchester.ac.uk neu ysgrifennwch at The Information Governance Office, Christie Building, The University of Manchester, Oxford Road, M13 9PL. Byddent yn eich arwain trwy’r broses o arfer eich hawliau.

Hefyd mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am gwynion mewn perthynas â’ch gwybodaeth adnabyddadwy bersonol drwy sgwrs destun fyw ar ei wefan neu Ffôn  0303 123 1113

Beth ddylwn ei wneud nawr?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y wybodaeth yn y daflen hon, rhowch wybod i ni:

Os hoffech wybod mwy am yr astudiaeth READY, ymwelwch â’n gwefan: https://sites.manchester.ac.uk/thereadystudy/

Diolch am ddarllen hyn!